top of page

Prosiect Egni Glân Llynfi

LlynfiFourPlantRender_18Oct2024.png

Delwedd o Brosiect Egni Glân Llynfi

Mae Last Energy yn gweithio i bweru a datgarboneiddio diwydiant yn ne Cymru.

Rydym yn adeiladu, yn berchen ar ac yn gweithredu ar bwerdai niwclear modiwlaidd micro i
ddarparu ynni glân diogel 24/7 i gwsmeriaid diwydiannol, wedi’u cyllido’n gyfan gwbl gan gyfalaf
preifat.

Rydym yn gweithio ar gynlluniau i ddatblygu pedwar pwerdy ar safle gwag gorsaf bŵer glo Llynfi yn
Sir Pen-y-bont ar Ogwr, de Cymru. Gydag 20 megawat (MW) o drydan yn cael ei gynhyrchu fesul
pwerdy, bydd y prosiect ynni glân 80 MW hwn yn darparu diogelwch ynni i weithgynhyrchwyr lleol,
yn creu swyddi ac yn sbarduno buddsoddiad economaidd hirdymor yn y rhanbarth.

buddsoddiad cyfalaf heb yr angen am gyllid cyhoeddus

£300m

o swyddi lleol amser
llawn yn cael eu creu

100+

buddsoddiad cadwyn gyflenwi de Cymru

£30m+

o gartrefi'r DU yn cael eu pweru gydag allbwn ynni blynyddol cyfatebol

244,000

SiteMapLabeled.png

Map o safle Prosiect Egni Glân Llynfi

Cysylltu â Ni

Byddwn yn diweddaru’r wefan hon yn rheolaidd wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.
Yn y cyfamser, os bydd gennych chi ymholiadau, cwblhewch y ffurflen gysylltu isod:

Math o ymholiad

Mae 5654 & Company yn gweithio ar ran Last Energy i gasglu gwybodaeth am gynigion datblygu Prosiect Egni Glân Llynfi. Rydym yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd a bydd y data a gesglir drwy'r ffurflen adborth hon yn cael eu defnyddio i lywio cais Last Energy ar gyfer y safle, ac nid at unrhyw ddiben arall. Byddwn yn cadw eich data personol nes bydd y broses gynllunio wedi’i chwblhau.

Byddwn bob amser yn trin eich data personol gyda’r gofal mwyaf ac yn cymryd yr holl gamau priodol
i’w diogelu. Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd yn https://www.lastenergy.com/privacy-terms
neu gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost atom yn contact@cleanenergyllynfi.wales.

bottom of page