Ynglŷn â Last Energy

Plant Render
Pwerdy modiwlaidd micro 20 MW Last Energy, y PWR-20

Mae Last Energy yn ddatblygwr gwasanaeth llawn y PWR-20, sef pwerdy niwclear modiwlaidd micro 20 megawat (MW), sydd â’r nod o alluogi mynediad at ynni glân a datgarboneiddio mewn ffordd sy’n ddiogel, y gellir ei ddatblygu ar raddfa, ac sy’n gystadleuol yn economaidd.

Drwy fod yn berchen ar bob agwedd ar ddarpariaeth y pwerdy a lleihau amser a chost adeiladu’n drawiadol, mae Last Energy yn trawsnewid y diwydiant pŵer niwclear i ddatgloi sylfaen ynni glân a dibynadwy i gwsmeriaid diwydiannol ledled Ewrop, oll heb yr angen am gyllid cyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth am Last Energy, ewch i wefan ein cwmni.

Ynglŷn â Phrosiect Egni Glân Llynfi

O 1951 i 1977, roedd y safle’n gartref i orsaf bŵer Llynfi, a oedd yn bwerdy glo 120 MW. Yn dilyn ei ddatgomisiynu ym 1977, mae’r safle wedi parhau i fod yn wag.

Mae is-gwmni Last Energy yn y DU yn cynllunio adfywio'r safle 14 erw a’i wneud yn addas i'w ddefnyddio eto drwy ddatblygu pedair uned PWR-20, sef ein pwerdai niwclear modiwlaidd microPWR-20 20 MW. Dewison ni Lynfi am ei fod yn agos at safle diwydiannol mawr y mae angen pŵer glân 24/7 diogel arno. Bydd Prosiect Egni Glân Llynfi yn cefnogi twf, adfywio a datgarboneiddiodiwydiant lleol.

Bydd ein cynlluniau’n cyfrannu at dwf a datgarboneiddio diwydiant yn ne Cymru, gan greu buddsoddiad economaidd hanfodol a chyfleoedd swyddi i'r rhanbarth drwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol.

Rydym yn anelu at gomisiynu’r pwerdy cyntaf yn 2027, yn dilyn proses gynllunio a thrwyddedu lwyddiannus.

Former site of the Llynfi Power Station
Hen safle gorsaf bŵer Llynfi, sydd bellach yn wagCredyd llun i Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,
Project Render
Delwedd o Brosiect Egni Glân Llynfi
map for the project
Map o safle Prosiect Egni Glân Llynfi
night plant render
Delwedd o Brosiect Egni Glân Llynfi gyda’r hwyr
Plant Render
Pwerdy modiwlaidd micro 20 MW Last Energy, y PWR-20

News

£300m Scheme for Bridgend Micro-Nuclear Plants Moves a Step Closer
Prosiect Egni Glan Llynfi will see the micro modular 20 MWe nuclear power plants built on a vacant site that housed the coal-fired Llynfi Power Station from 1951 to 1977. The plants will deliver power to mid-size manufacturers throughout the region.
February 2025
Business News Wales
Boost for firm looking to build smaller nuclear power plant in South Wales
US firm Last Energy has now entered a licensing process for its four small modular reactor project in the Llynfi Valley with regulator the Office for Nuclear Regulation.
February 2025
Wales Online
South Wales microreactor project first to start nuclear site licence process in nearly 50 years
Last Energy UK is moving ahead with its south Wales microreactor project as it has become the first to enter the nuclear site licensing process with the Office for Nuclear Regulation (ONR) since Torness nuclear power station in 1978.
February 2025
New Civil Engineer