Caniatâd, Trwyddedu,ac Ymgynghori
Mae Prosiect Egni Glân Llynfi yn destun adolygiad rheoleiddiol i sicrhau bod y dyluniad yn bodlon safonau diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol cadarn. Y prif awdurdod a fydd yn gwerthuso’r prosiect hwn fydd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR); yn ogystal, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), ac awdurdodau perthnasol eraill yn craffu'r prosiect hwn. Mae Last Energy wedi bod yn gweithio’n weithredol gydag ONR, CNC, PCAC, EA, a swyddogion lleol a chenedlaethol Cymru a’r DU, a bydd yn parhau i wneud hynny drwy gydol y prosiect.
Bydd ein prosesau ymgynghori cymunedol yn cynnwys cyfleoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb i'r cyhoedd ddysgu rhagor am y prosiect, gofyn cwestiynau a rhoi adborth. Byddwn yn cynnig manylion cynhwysfawr am ein digwyddiadau a gweithgareddau ymgynghori yma, felly parhewch i gadw llygad er mwyn gweld y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Last Energy yn ymrwymedig i weithio’n agos gyda’r awdurdodau a’r gymuned drwy gydol ybroses.
